![Hafren Forest](https://static.wixstatic.com/media/25d799_4d9a0489eca248f58c2e9bb5cb28cb9d~mv2.jpg/v1/fill/w_750,h_500,al_c,q_85,enc_avif,quality_auto/P1070092%20biodiversity.jpg)
Gwytnwch Cymunedol
Heddiw – mae gennym gwell ymwybyddiaeth o sialensau byd eang – rhaid i ni fod yn uchelgeisiol a chymryd siawns er mwyn darganfod y cydbwysedd fydd yn ein hysbrydoli i fod yn obeithiol am y dyfodol a sicrhau ein gwytnwch.
Hoffem ni i pob sefydliad, pob aelod o'r gymuned, gael y cyfle i gymryd rhan wrth i ni roi arferion newydd ar waith, cymryd rhan mewn ffyrdd newydd o rannu, o defnyddio, o gyd-fyw gydag eraill a'r byd o'n cwmpas.
Rydym am gryfhau cysylltiadau undod a chydgymorth o fewn y gymuned.
Rydym hefyd am rannu gwybodaeth a doethineb ein harbrofi ar ddatblygu cynaladwy, newid hinsawdd ac adferiad gwyrdd.
![Community Resilience - Sowing seeds for the future.jpg](https://static.wixstatic.com/media/25d799_71ce80bc72f94c5e8448b32e3c70c771~mv2.jpg/v1/fill/w_164,h_137,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Community%20Resilience%20-%20Sowing%20seeds%20for%20the%20future.jpg)
Mae'r Ardd Grog yn hwb ar gyfer rannu syniadau a mentrau newydd yn y gymuned.
-
Rhoi digwyddiadau cymunedol ar waith, er mwyn dod â phawb at ei gilydd (Gŵyl Pwmpen, Gŵyl Barcud).
-
Trefnu gweithdai a gweithgareddau er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion yn gysylltiedig ȃ'r argyfwng presennol ac adfywiad gwyrdd.
-
Annog wahanol rannau o'r gymuned i gymryd rhan yn ein gweithgareddau (yn enwedig y grwpiau mwyaf bregus).
-
Cynnig amryw o gyfleoedd ar gyfer cymryd rhan a gwirfoddoli.
-
Annog trosglwyddo sgiliau rhwng aelodau'r gymuned o wahanol gefndiroedd.
-
Datblygu arbrofi gyda mentrau gwyrdd ar raddfa fychan
-
Cynhyrchu taclau a dogfennau sy'n cymryd mantais o wybodaeth a sgiliau lleol
Funding for our Community Resilience Project is provided by
Subscribe to our monthly newsletter