top of page
Fresh local vegetables

Bwyd Iachus

Rydym wedi sefydlu Grŵp Bwyta'n Iach gydag aelodau'r gymuned er mwyn gwella'r ffordd mae trigolion y dref yn cael gafael ar fwyd iachus.

Rhan o'n gwaith ni yma yn Yr Ardd Grog yw creu hwb fwyd fel bod lle i ni ddod at ein gilydd  i hybu bwyd lleol. Byddwn yn helpu i greu mentrau newydd fydd yn cysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr er mwyn cryfhau'r cysylltiad rhwng y bwydydd rydym yn bwyta a sut a ble mae'n cael eu gynhyrchu. Rydym am annog bwyta'n iach gyda chydbwysedd, er mwyn rhoi pwyslais ar

bleser bwyta, choginio a rhannu prydiau bwyd. Bydd Yr Ardd Grog yn amlygu arbenigedd lleol ac yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan. Yn olaf, rydym am i fwyd iach, lleol, o safon uchel fod ar gael i bawb.

Ein breuddwyd am ddyfodol Prosiect Yr Ardd Grog yw y bydd e'n sylfaen i'n cymuned dyfu a bod yn ganolfan ar gyfer cael gafael ar fwyd lleol yn ogystal â bod yn ganolfan addysg ar gyfer tyfu bwyd yn gynaladwy a mentrau tebyg. Rydym yn rhagweld y bydd Yr Ardd Grog yn lle llawn bywyd fydd yn gartref i fentrau a grwpiau cymunedol, yn sbarduno'r gymuned i gyd-weithio ar weithgareddau a gweithdai. Bydd hyn yn cryfhau cysylltiadau undod a chydgymorth yn ardal Llanidloes.

Joe serving Soup

 Gweithgareddau

lleihau pwysau'r gaeaf

Fel rhan o'n gweithgareddau parhaol wedi ei seilio ar fwyd, rydym yn rhedeg grwpiau coginio a chymdeithasu yn ystod y gaeaf. Rydym yn cynllunio ar gyfer grwpiau i gymryd rhan mewn gweithgareddau coginio gydag ynni isel ar gyllideb gyfyngedig. Byddwn yn trefnu cwrs o 6 pryd cymdeithasol pob pythefnos a 3 sesiwn misol o arddangosiadau coginio o Ionawr tan fis Mawrth  fydd yn darparu bwyd iachus yn ogystal â dysgu sgiliau coginio gydag ynni isel a gofynion amser cyfyngedig. Byddwn yn rhoi pwyslais ar greu awyrgylch sy'n agored i bawb. Bydd hyn yn gyfle i unigolion ddod at ei gilydd i gymdeithasu a darganfod lle cyfforddus a diogel o fewn y gymdeithas. Mae'r gyllideb swyddogol ar gyfer y prosiect yma yn para am 3 mis ond hoffem ni barhau i redeg gweithdai a gweithgareddau debyg trwy'r flwyddyn.

bottom of page