top of page

Dolenni at Adnoddau Pellach

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gallwch wneud newid positif yn y gymuned a'r

 amgylchedd, dilynwch y ddolen iso

Waste for recycling
Litter Picking

Adferiad Gwyrdd

Mae'n teimlo fel petai popeth rydym yn gwneud ac yn brynu yn gwneud difrod i'n planed gwethfawr wrth fyw yn y 21ain ganrif. Dyna pham rydym yn ymroddedig i adeiladu adferiad teg a gwyrdd. Rydym wedi mabwysiadu fframwaith Senedd Cymru er mwyn dylunio gweithgareddau, gweithdai a darlithoedd er mwyn helpu'r gymuned i gyflawni'r nodau cenedlaethol yma.

​

Cysylltiadau

GREEN RECOVERY
Waste

 Rheoli Gwastraff

Yn Yr Ardd Grog rydym eisiau lleihau effeithiau negyddol bywyd modern. Rydym wedi cynllunio cyfres o weithdai a gweithgareddau er mwyn lleihau gwastraff cartref  - trwy greu hwb fwyd, cynnal gweithgareddau trwsio wedi eu trefnu gan Repair Events Group, annog tyfu bwyd ein hunain a chompostio ar ein safle. Rydym yn ystyried yn fanwl y defnyddiau rydym yn cynnwys wrth adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol a naturiol lle'n bosibl e.e yn ail-gylchu ac ail-ddefnyddio drysau a ffenestri pren. Byddwn hefyd yn cynnwys rhai o ryfeddodau'r dechnoleg fodern er mwyn datblygu systemau gwresogi cynaliadwy a systemau cynhyrchu trydan.

​

Cysylltiadau

Forest fire

Newid Hinsawdd

Yn Yr Ardd Grog rydym yn ymdrechu i fynd i'r afael a thaclo newid hinsawdd trwy amrywiol ffyrdd. Gyda'r profiad o redeg fferm sero carbon mae gan ein cyfarwyddwyr brofiad o bwysigrwydd  gwneud y newidiadau fydd yn cael yr effaith orau ar ein planed. Rydym nid yn unig am sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith bositif ar yr amgylchedd ond hefyd am addysgu ac arwain eraill sut i ddefnyddio eu dychymyg creadigol er mwyn wynebu rhai o heriau mwyaf y byd fel y mae heddiw a throi pryder ac ofn yn gymhelliad a gweithred. P'un a'i yn tyfu, mynychu sesiynau hyfforddi, mynychu darlithoedd neu'n ymuno â phrydiau bwyd cymunedol, mae amrhyw o ffyrdd y gall unigolion wneud gwahaniaeth yn y dasg enfawr sy'n ein hwynebu. 

​

 Cysylltiadau

Climate
Fresh bread and salad bowls
Heathy Food

Bwyd Iach

Yn ogystal â'n caffi, sy'n gwerthu bwyd blasus ac iachus, rydym yn ymroddedig i greu  rhwydwaith o bobl, a rhaglen o weithgareddau, sy'n ymwneud â bwyd – o dyfu a chynhyrchu  i  brosesu, coginio a bwyta. Rydym yn credu bod cysylltu pobl gyda'r bwyd maent yn dyfu ag hanes a threftadaeth bwyd ein hardal yn allweddol er mwyn gallu creu perthynas iach ac angerddol tuag at fwyd a'r gymdeithas rydym yn byw ynddo.

​

Cysylltiadau...

Hafren Forest

 Bio-amrywiaeth

Wrth i ni fod ynghlwm â'r bwrlwm o weithgaeddau dynol yn Yr Ardd Grog, mae'n hawdd anghofio'r creaduriaid bychain, swil sy'n byw a ffynnu yn ein gerddi ac ym mhob twll a chornel o gwmpas yr hwb. Yn Yr Ardd Grog, mae'r fflora a ffawna rydym yn rhyngweithio ag ef  mor bwysig i ni â'r pobl sy' yma. Yn wir, rydym yn credu bod y ddau yn mynd law yn llaw. Ein hangerdd yw creu lleoedd hardd fydd yn cael eu ddefnyddio gan bob rhywogaeth. Rydym yn esblygu'n gyson ac yn ehangu ein rhwydwaith gyda mudiadau bywyd gwyllt eraill er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth gallwn i helpu'n pryfaid, brogaod, peillwyr ac anifeiliaid sy' mor bwysig i'n ecosystemau.

 

 Cysylltiadau... 

Biodiversity
Jane Davidson's talk at the Pumkin festival

Darlith Jane Davidson yn Yr Ardd Grog

Ym mis Hydref 2021 cynhaliwyd Yr Å´yl Bwmpen yn Yr Ardd Grog. Fe wnaethom estyn wahoddiad i Jane Davidson (cyn Aelod o'r Senedd, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, awdur #futuregen, Lessons from a Small County a'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol  cyntaf yn y byd!) i siarad gyda ni pan agorwyd Yr Ardd Grog, gan ein bod yn edmygu ei gweledigaeth ar gyfer Cymru ac yn teimlo ei fod yn berthnasol i'r hyn rydym ni'n gwneud yma, yn ein cornel bach ni. Siaradodd Jane am Les Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol fel arf ar gyfer gwneud llunwyr polisiau yng Nghymru yn atebol am eu penderfyniadau.

A Message For Our Time (The Hanging Gardens Oct 2021)Jane Davidson
00:00 / 1:02:03
Jane Davidson
Sophie Howe

Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol  

Comisiynydd Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (WFGC) ar hyn o bryd yw Sophie Howe. Rôl y comisiynydd yw gofalu bod lles cenedlaethau'r dyfodol yn gael ei ystyried yn briodol pan mae polisiau a deddfau newydd yn cael eu llunio. Mae'r WFGC yn arf newydd, ac nid yw o reidrwydd wedi'i ddefnyddio i'w lawn botensial eto. Os ydych yn credu bod agweddau o bolisiau neu ddeddfau Cymreig yn ddiffygiol neu ddim yn cael eu defnyddio i'w llawn potensial, mi fedrwch ysgrifennu at Sophie Howell gan fanylu ar y diffygion. Os ydych am sbarduno'r WFGC i weithredu annogwch eich ffrindiau, teulu a chymdogion i ysgrifennu at Sophie Howe.

​

Cysylltiadau... 

WFGC
bottom of page