top of page

Mae amrhyw o ffyrdd y gallwch gymryd rhan a helpu yn Yr Ardd Grog.

Anchor 1
Volunteers in Community Gardens

Gwirfoddoli  

Rydym yn cynnal sesiynnau gwirfoddoli yn wythnosol ar ddydd Gwener 2.00-4.00y.h. Mae'r sesiynnau yn gyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, dysgu mwy am ein prosiect, gweithio gyda'ch cymdogion dros baned a sgwrs. Ar gyfer rhai ohonoch sydd eisiau rôl gwirfoddoli mwy parhaol gallwn deilwra swydd sydd yn eich gweddu chi. Mae gwaith gwirfoddoli yn cynnwys gweithio yn y caffi, yr ardd a gwaith adeiladu atgweiriol. Rydym angen gwirfoddolwyr all roi cyngor i ni, rhoi cymorth gyda busnes, cynllunio strategol a chyfreithiol, rheoli prosiectau bychain, ysgrifennu bidaiu codi arian, gweithredu gweithgareddau, rhwydweithio, addysgu, cadw gwenyn, coginio, helpu yn y caffi, chwarae cerddoriaeth – mewn gwirionedd, byddai unrhywbeth y gallwch gynnig  fod yn ddefnyddiol i ni!

Mae'r gefnogaeth rydym yn ei dderbyn gan wirfoddolwyr yn amhrisiadwy i ni.  Rydym yn cynnig hyfforddiant: Hylendid Bwyd Lefel 2, Iechyd a Diogelwch yn y gwaith, Cymorth Cyntaf  a hyfforddiant garddio.

Rydym yn croesawu pawb i ymuno â ni er mwyn rhannu eu profiadau, sgiliau a gwybodaeth. Os oes gennych chi sgiliau fyddai o help i'n prosiect dewch heibio am sgwrs gydag aelod o'n tîm, neu ebostiwch joseph@thehanginggardens.org

cafe volunteers wanted-01.png
Volunteer
Volunteer fundraising

Codi arian a rhoi rhodd ariannol

Mae Yr Ardd Grog yn ardal cymunedol sy'n cael ei redeg gan The Wilderness Trust. Rydym yn dibynnu ar gyllid parhaol er mwyn bwrw 'mlaen gyda'r gwaith atgyweirio mae'r prosiect ei angen.

 

Rydym yn croesawu unrhyw gymorth ariannol gallwn ei gael. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer codi arian byddem yn hapus gweithio gyda chi er mwyn gwireddu'r nôd.

Fundraising
The cafe staff

Swyddi sy' ar gael

 Mae ein tîm bychan yn ddibynnol ar gyllid allanol er mwyn gallu tyfu – er mwyn sicrhau bod y prosiect yn symud ymlaen rydym yn penodi amser yn gyson er mwyn ymgeisiao am fwy o gyllid. Mae hyn yn golygu, o bosib, y byddwn yn hysbysebu mwy o swyddi yn y dyfodol. Sieciwch yma er mwyn darganfod os fydd hi'n bosib i chi ymuno â'n tîm!

Vancancies
Experties
Puppetsoup Childrens Theatre

Partneriaid

Tra rydym yn hapus dros ben derbyn cymorth gan wirfoddolwyr yn Yr Ardd Grog, mae llawer o fudiadau a grwpiau eraill angen eich cefnogaeth hefyd.

​

Am fwy o wybodaeth ar y grwpiau yma a'r gwaith maent yn wneud ewch i dudalen ein Partneriaid

Partners
social media posts

 Cyfryngau Cymdeithasol

Cadwch i fyny gyda'n gweithgareddau a newyddion trwy ein dilyn ar Facebook, Instagram ac Youtube.

  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
Socia Media
bottom of page